Testun yn unig

English version

www.a1investigations.co.uk

Delwedd dyn sy'n llawn pryder meddylgar. Os oes pryderon gennych, ffoniwch 0800 358 0908 yn rhad ac am ddim


Prif dudalen lywio yn dilyn:
Hafan
Cwmni
Gwasanaethau
> Cymorth
CCTV Cudd
Cysylltwch â ni

EICH CYNORTHWYO CHI


Deallwn y byddwch pan yn ceisio ein gwasanaethau o bosibl yn mynd drwy gyfnod cythryblus. Deallwn hwyrach y bydd angen i ni dawelu'ch meddwl ynglyn â'r gwaith a wnaed.

SUT Y BYDDWN YN MYND ATI:
Cyfarfod yw'r man cychwyn fel arfer. Ni wnawn ddechrau gweithio ar eich rhan nes i ni ddeall yn iawn natur y gwaith y carech i ni ei wneud. Mi fyddwn ar y cyd yn dynodi terfynau'r gwaith yr ydych am i ni ei gyflawni.

TRA BO'R GWAITH YN DIGWYDD:
Byddwn wrth reswm yn darparu'r canlyniad terfynol, ond mi fyddwn yn barod iawn i gyflenwi unrhyw wybodaeth fydd ei angen arnoch yn ôl y galw. Wrth gwrs nid yw'n dilyn o angenrhaid y byddwch yn derbyn y wybodaeth yr oeddech yn gobeithio amdani, ond mi fydd yn onest, yn deg ac yn ddiduedd.

CYFRINACHEDD:
Mi fyddwn yn sicrhau y gwarentir eich cyfrinachedd yn llawn ac rydym o ddifrif yn hyn o beth. Ni wnawn siarad â neb heb eich caniatâd. Mae cyfrinachgarwch yn elfen naturiol a hanfodol o'n gwaith ac ni fyddem byth yn eich rhoi mewn sefyllfa lle y byddech wedi'ch tanseilio. Chi fydd wastad yn rheoli'r gwaith a wnawn. Hwyrach er enghraifft y bydd ein hymchwiliad yn datgelu materion eraill nad ydych yn ymwybodol ohonynt. Petai hyn yn digwydd - ac mi all, yna byddwn yn ddi-ffael yn ei drafod â chi ac yn derbyn rhagor o gyfarwyddiadau gennych. Ni wnawn barhau heb y cyfarwyddiadau pellach hyn gan na fydd efallai angen ymdrin ar unwaith â'r materion eraill hynny, neu efallai y bydd goblygiadau'n deillio ohonynt mewn meysydd eraill na fyddwch am eu dilyn y pryd hynny..

CANLYNIADAU EIN GWAITH:
Bydd canlyniadau ein gwaith yn dibynnu ar natur y gwaith a gyflawnir, boed hwnnw efallai'n adroddiad, yn ymddangosiad llys, yn dystiolaeth ffotograffig neu fideo. Mi wnawn gyflwyno a thrafod canlyniadau ein gwaith â chi yn y fan ac ar yr adeg a ddewiswch chi.

BETH FYDD YN DIGWYDD NESAF?
Wedi i ni roi ein cyflwyniad, hwyrach y bydd angen i chi benderfynu beth ddylid ei wneud nesaf, efallai mai gwneud dim fydd y peth iawn i'w wneud ar y pryd, neu efallai y bydd angen mynd ati i weithredu, neu hwyrach y bydd yr hyn a ddatgelwyd yn eich gorfodi i weithredu. Ni fydd modd i ni ddweud wrthych beth ddylech ei wneud, ond hwyrach y gallwn, yn seiliedig ar brofiad blaenorol, eich cynghori ynglyn â'r hyn a allai ddigwydd o weithredu mewn modd arbennig, ond dylech fod yn ymwybodol bod pob sefyllfa yn wahanol.

Beth bynnag y byddwch yn penderfynu ei wneud, bydd cyngor a chymorth ar gael gennym ble a phryd bynnag y bo modd.