|
Pam?
Mae Gwyliadwriaeth gyda Theledu Cylch Cyfyng Cudd yn ffordd gost-effeithiol
a hwylus o fonitro a sicrhau tystiolaeth hanfodol o weithredoedd troseddol
tybiedig.
Sut?
Gellir defnyddio Teledu Cylch Cyfyng cudd mewn mwy a mwy o wahanol ffyrdd
erbyn hyn. Drwy fanteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf, gallwn yn awr gynnig
camerâu y gellir eu gosod ym mhobman bron o fewn eitemau cyffredin sydd ar
eich eiddo e.e. goleuadau a chlociau. Mae'r dechnoleg yn datblygu mor gyflym,
o fewn yr amrywiaeth o gamerâu diwifrau a gynigiwn ceir camerâu sydd â'r
gallu i weithio oddi ar fatri PP3 gan anfon lluniau'n syth at recordydd
fideo digidol. Unwaith y cesglir y dystiolaeth ynghyd gellir wedyn ei
chynhyrchu a'i darparu i chi ar CD neu DVD.
Pryd?
Gallwn drefnu i osod y cyfarpar ar adeg fydd yn gyfleus i chi neu eich
busnes. Mae ein gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 dydd yr wythnos.
Gallwn gynnig y cyfarpar uchod i'w rentu neu petaech yn dymuno ei brynu
gallwn ei gynnig i chi am bris gostyngol. Ffoniwch ni ar 0800 358 0908 neu
anfon ebost at rneed@a1investigations.co.uk.
|