|
Medrwn eich helpu mewn llawer o wahanol ffyrdd. Hwyrach y bydd y
gwasanaeth a gynigiwn yn tynnu ar unrhyw un os nad y cyfan o'r
gwasanaethau isod. Mae'n bosibl na fydd eich problem chi yn cyd-fynd yn
union â'r 'blychau' yma felly ffoniwch er mwyn i ni gael trafod. Ni
fyddwch yn ymrwymo i ddim a chofiwch nad ydi gofyn yn costio dim!
Ymholiadau Priodasol ac
Ysgaru:
Gallwn ddarparu adroddiad llawn i'ch cyfreithiwr. Eich penderfyniad chi
fydd dewis gweithredu ar sail y wybodaeth a gyflwynwyd ai peidio. Mae gan
y dynion a'r merched ar ein staff brofiad helaeth iawn yn y maes. Gallwn
ddarparu tystiolaeth ffotograffig a fideo pan fo angen.
Adroddiadau Tawelwch
Meddwl:
Byddwn yn darparu adroddiad llawn a diduedd i chi ar y pethau hynny nad
ydych yn sicr ynglyn â nhw, gan ei gwneud yn bosibl i chi ddelio â'r
mater, ac yna parhau â'ch bywyd.
Gwyliadwriaeth:
Pa un a oes angen ymchwiliwr unigol i gadw gwyliadwriaeth breifat neu
dîm i ymgymryd ag ymchwiliadau diwydiannol neu gorfforaethol, bydd ein
harbenigwyr yn barod i deithio i unrhyw ran o'r byd gyda'r cyfarpar mwyaf
modern i sicrhau'r canlyniadau gorau ar gyfer ein cleientiaid.
Dadfygio:
Dywedir yn Saesneg fod gan waliau glustiau! Bydd ein cyfarpar dadfygio
soffistigedig diweddaraf yn rhoi prawf ar hyn. Gallwn chwilio swyddfeydd
bach a mawr, unedau ffatri, gwestai a chartrefi preifat ledled y wlad a
ledled y byd. Gallwn eich helpu i ddiogelu'ch cynlluniau a'ch cynhyrchion.
Gwasanaeth Ffotograffig
Llawn:
Ategir ein holl ymholiadau, sylwadau a chyfarwyddiadau gwyliadwriaeth
gan dystiolaeth fanwl ffotograffig a fideo. Bydd y dystiolaeth
ffotograffig, gyda'r amser a'r dyddiad, yn gymorth i ni gyflawni eich
cyfarwyddiadau.
Systemau Diogelwch
Aml-Gamera Cudd:
Mae gosod systemau camera cudd yn fodd i chi gael gwybod bod eich
gweithwyr yn trin eich arian a'ch nwyddau mewn ffordd briodol. Byddwn yn
eich helpu i ofalu bod eich busnes yn dal i wneud elw gyda chyn lleied â
phosibl o golledion.
Cyflwyno Prosesau
Gwasanaeth cyflwyno personol ar gyfer dogfennau llys a phreifat, ar ran
Cyfreithwyr ac ar ran Diwydiant. Mae ein swyddfeydd ar draws Cymru a
Gogledd Orllewin Lloegr yn barod i gyflawni holl anghenion prosesu eich
practis yn gyflym, effeithlon ac am bris hynod o resymol. Mi allwn
gyflawni holl anghenion prosesu cwmnïau cyfreithwyr mawr a bach ledled
Cymru, Lloegr, yr Alban a thramor. Beth am roi cynnig ar ein gwasanaeth
rhagorol.
Ymchwilio Diwydiannol a
Masnachol Cudd (Arbenigwyr):
Mae ein tîm o arbenigwyr wedi gweithredu cyfarwyddiadau o bob math
ynglyn â thwyll diwydiannol, lladrata a thwyllo, mewn llawer o wledydd
ledled y byd.
Ymchwilio i Dwyll:
Byddwn yn ymgymryd â phob math o ymchwiliadau i dwyll ar ran
cleientiaid preifat a masnachol. O fewn y maes ymchwiliadau arbennig hwn
bydd peidio â gweithredu yn gostus iawn i chi. Ffoniwch i gael cyngor ar
y dull gorau o fynd i'r afael â'ch problem benodol chi.
Gwaith Amddiffyn Troseddol:
Mi fydd ein tîm profiadol iawn, sydd â blynyddoedd o brofiad yn y
maes hwn, yn ymgymryd ag ymholiadau amddiffyn troseddol. Bu eu talent a'u
gallu gyda'i gilydd yn gymorth i ddwyn llawer o achosion i'w terfyn.
Aseiniadau Dramor:
Bu gofyn i ni gynnal ymholiadau dramor dros nifer o flynyddoedd.
Gyda'r Undeb Ewropeaidd yn integreiddio fwyfwy, mae hyn yn mynd yn fwy
arferol. Mae'r profiad yma'n ei gwneud yn bosibl i ni wneud ein
hymchwiliadau hyd yr eithaf ar ran ein cleientiaid.
Ymchwilwyr i Hawliadau
Yswiriant:
Bu ein timau ymchwilio'n cynorthwyo yn achos hawliadau yswiriant
twyllodrus sylweddol dros nifer o flynyddoedd, yn gwneud ymholiadau, cadw
gwyliadwriaeth, recordio ffilm fideo o hawlwyr oedd â phob math o
hawliadau annilys.
Adroddiadau ar Ddamweiniau
Cerbydau:
Ymgymerir â hawliadau yswiriant damweiniau traffig ffyrdd, bras
gynlluniau, tystiolaeth ffotograffig, adroddiadau lleoliad, cyfweliadau ac
ymholiadau olrhain er mwyn helpu i gwblhau hawliadau.
Ymchwilwyr Troseddol,
Sifil ac Yswiriant:
Cwblheir ymchwiliadau troseddol, sifil ac yswiriant gan y dynion a'r
merched profiadol ar ein staff. Bydd eu gwybodaeth helaeth iawn yn y maes
yn sicrhau y ceir y canlyniadau gorau gyda'u hymholiadau.
Mynd i'r Llys:
Mae'r cyfan o staff A1 Investigations Bureau Ltd yn barod i fynd i'r
llys i roi tystiolaeth ynglyn â chanlyniadau eu hymholiadau.
Prawf Brynu:
Bydd ein timau prawf brynu yn teithio dros y wlad yn prawf brynu ar
ran manwerthwyr mawr, gwestai, systemau cludiant a llawer o gwsmeriaid
eraill, er mwyn amlygu unrhyw golledion a rhwystro iddynt ddal i gronni'n
ddi-baid ymysg cwmnïau sy'n gleientiaid i ni. Mae'r llwyddiant mawr a
brofwn yn y maes yn galluogi i'n cleientiaid sicrhau mwy o elw ac i gynnal
ymddiriedaeth rhwng y rheolwyr a'r staff. Elfen hanfodol ar gyfer unrhyw
fusnes llwyddiannus yw hyn.
Gwerthu Cyfarpar Cudd:
Gallwn gynnig cyngor a chyflenwi cyfarpar fyddai fwyaf addas ar gyfer
eich anghenion.
Systemau Olrhain:
IOs ydych yn amau bod eich cerbydau yn mynd lle na ddylent yna mi
allwn osod y systemau olrhain diweddaraf ynddynt. Maent yn cael eu
cuddio'n ddiogel iawn yn y cerbyd a gellir eu holrhain o bell i fonitro eu
lleoliad yn fanwl iawn o funud i funud.
|