|
Y Ddeddf Diogelu Data
Gwybodaeth Adnabyddadwy Bersonol : Drwy anfon ebost atom hwyrach y
byddwch yn cyflwyno gwybodaeth adnabyddadwy bersonol i ni - oherwydd natur
ein busnes a sensitifrwydd eich ymholiad nid fydd hyn yn ofynnol. Os
byddwch yn cyflwyno gwybodaeth adnabyddadwy bersonol, byddwn yn cadw a
phrosesu'r wybodaeth yma yn rhinwedd ein busnes yn unig ac ni wnawn
werthu'r wybodaeth yma i drydydd partïon. Rydym wedi'n cofrestru o dan y
Ddeddf Diogelu Data gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (OIC).
Y Ddeddf Camwahaniaethu ar
Sail Anabledd
Rydym wedi ymrwymo i driniaeth gyfartal ac ni fyddwn yn camwahaniaethu
ar sail abledd. Wrth ddylunio ein gwefan cymerwyd camau rhesymol i fod yn
gynhwysol. Os ydych wedi profi anhawster â'r wefan mae angen i ni gael
gwybod. Gwerthfawrogwn yn fawr petai modd i chi esbonio natur y broblem a
brofwyd, y porydd oedd yn cael ei ddefnyddio gennych yn cynnwys rhif y
fersiwn. Pa system weithredu a chyfrifiadur fyddwch chi'n eu defnyddio?
Sut yr amlygodd y broblem ei hun? Beth fyddai modd i ni ei wneud yn eich
barn chi i'w datrys?
Datganiad Preifatrwydd
Briwsion (Cwcis): Darnau bychain o ddata yw briwsion a roddir ar eich
cyfrifiadur gan y wefan i wella'r profiad a gewch arni. Ni fydd ein gwefan
yn defnyddio briwsion.
Casglu data: Mae ein gweinydd gwe yn casglu gwybodaeth
anadnabyddadwy ynglyn â'ch defnydd o'r wefan megis (ond nid yn unig) eich
cyfeiriad IP, tudalennau a welwyd a hyd eich ymweliad. Dibenion ystadegol
sydd i hyn, er mwyn ein galluogi i wella ein gwefan. Ni ellir defnyddio'r
wybodaeth yma i ganfod pwy yw unrhyw unigolyn.
Deddf Credyd Defnyddwyr
Cofrestrir A1 Investigations Bureau Ltd o dan Drwydded y Ddeddf Credyd
Defnyddwyr Rhif 526700
|